top of page
Outline.png

A Midsummer Ice Cream gan gwmni theatr Rising Stars, Swansea

lauraseymour7
Sep 21
1 min read

Ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2026, aeth criw o dîm AMEND i weld A Midsummer Ice Cream gan The Rising Stars Theatre Company. Hon oedd gwibdaith haf ein tîm.

 

Roedden ni wrth ein boddau gyda’r sioe! Diolch i’r tylwyth teg, y coblynnod, y cast a’r criw i gyd – profiad cwbl hudolus a hwyliog.


Poster for the show: Joseph Cullen (Bottom) leans out the window of a pastel coloured ice cream van, licking an ice cream. He wears a colourful pair of donkey's ears on his head. Above him, the words 'A Midsummer Night's Dream' are written in blue, and 'Night's Dream' are crossed out and 'ICE CREAM' is written on top of them in white.
A Midsummer Ice Cream publicity image

Addasiad llawn hwyl a llawenydd o A Midsummer Night’s Dream gan William Shakespeare oedd y cynhyrchiad, a oedd yn cynnwys cerddoriaeth, dawns a llinellau wedi’u diweddaru.

Fe wnaeth pob aelod o’r cast roi eu stamp eu hunain ar y ddrama. Er enghraifft, llwyddodd Helena (Pasha Richards-Parssa Nykoo) a Hermia (Charlie Martin) i argyhoeddi’n llwyr fel ffrindiau ar y cychwyn (yn hytrach na chyfeillion caru-casau fel y maen nhw’n aml yn cael eu portreadu mewn fersiynau eraill). Cyflwynodd Joseph Cullen gân Bottom ‘The ousel cock, so black of hue...’ fel dynwarediad o gân aderyn. A phersonolwyd nid yn unig Wal, ond hefyd y Cleddyf sy’n trywanu Pyramus a Thisbe.

 

Llwyddodd pob aelod o’r cast i gynnal perthynas wych â’r gynulleidfa, gan fynd â ni bob cam o’r ffordd gyda nhw wrth i’r ddrama o fewn drama chwalu’n anhrefn llwyr.

 

Yn eu geiriau nhw, ‘cwmni theatr cynhwysol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu’ yw Rising Stars (Gwefan The Rising Stars Theatre Company, Abertawe )

 
 
 

Comments


bottom of page