top of page
Outline.png

Beth Yw Eich Enw? Archwiliad o achos Hugh Blair gan bobl niwroamrywiol.

lauraseymour7
1 day ago
3 min read

Yswain o’r Alban oedd Hugh Blair, a’r dyb yw ei fod yn awtistig, yn fyddar ac yn byw gydag anabledd dysgu. Ym 1747-8, roedd Hugh yn rhan o achos llys. Ym mis Tachwedd 2025, daeth criw o bobl niwroamrywiol ynghyd i ddarllen peth deialog o gofnodion yr achos, gan eu harchwilio fel drama. Roedden ni eisiau dod o hyd i bersbectif niwroamrywiol ar y gorffennol.

 

Roedd gennym yr eitemau canlynol:

·       Delweddau o Albanwyr y cyfnod, o wahanol oedran, rhywedd a hil/ethnigrwydd

·       Gwalltiau gosod cyfreithwyr a sbectolau ffug 

·       Ewyllys a darnau arian o gyfnod Hugh Blair – eitemau hanesyddol i ni allu eu cyffwrdd 

·       Eitemau i’w stimio

·       Cwestiynau’r cyfreithiwr ar gardiau awgrymiadau

Mae’r rhain i gyd yn y ddelwedd isod.

·       Roedd hawl i gyfranogwyr gynnig gwrthrychau a oedd berthnasol i’r achos mewn rhyw ffordd! 

 

Roeddwn i mor ddiolchgar i’r cyfranogwyr am roi mor hael o’u gofal, eu gwybodaeth, eu harbenigedd a’u hamser i’r gweithdy 2 awr hwn. Mae’r wybodaeth sy’n dod i’n rhan o brofiad niwroamrywiol yn hanfodol i waith academaidd. Mae’r profiadau o fod yn niwroamrywiol a rannwyd gan y cyfranogwyr wedi newid y ffordd rwy’n meddwl am Hugh Blair, ac yn mynd i lywio sut y byddaf yn cynnal gweithdai yn y dyfodol.

 

Dyma oedd gan rai o’r cyfranogwyr i’w ddweud: 

 

‘Profiad braf iawn yw cael bod yn greadigol gyda chriw o bobl sydd i gyd yn niwroamrywiol’.

‘Fe wnes i ddysgu am Hugh Blair a materion cynrychioli/dehongli anabledd yn achos unigolion ag anghenion cymorth dwys/anghenion cymorth isel’.

‘Hyd yn oed wrth fynd ati yn llawn bwriadau da, mae perygl y byddwn ni’n normaleiddio a thalu’r pris drwy golli hynodrwydd’. 

‘Fe allwn ni fynd yn ôl drwy’n perthnasau ein hunain am genedlaethau a dod o hyd i hynafiaid newydd a oedd yn debygol o fod yn niwroamrywiol... Mae drama’n gallu gwneud hynny’.

‘Mor wahanol y gall safbwyntiau pobl fod o fewn yr un sgript’.

‘Gobeithio y bydd modd ehangu’r sgript ar gyfer y ddrama gyda’r tystion, mewn gweithdai i ddod efallai’.

 

Fe wnes i ddarganfod bod pobl yn mwynhau bod yn greadigol gyda’i gilydd, ac nad yw safbwyntiau pobl niwroamrywiol ar y gorffennol yn unffurf. Fe wnes i ddeall hefyd fod angen mwy na dwy awr i weithio ar brosiectau fel hyn. Roedd gan bobl lawer o syniadau ac roedd sawl un eisiau dod yn ôl a gwneud mwy o waith ar y pwnc, er enghraifft, mewn cyfres o weithdai. Rwy’n cytuno y byddai’n braf treulio mwy o amser mewn grŵp a gadael i syniadau a thrafodaethau ddatblygu yn fwy hamddenol.

 

Derbyniodd gweithdy Abertawe gymeradwyaeth foesegol gan bwyllgor moeseg y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, rhif cymeradwyo 2 2025 14083 14089. Fe wnaeth hynny fy ngalluogi i gasglu a chyflwyno adborth cyfranogwyr yn ddienw a’i gyhoeddi yn y blog hwn. 

 

I ddarllen cofnod manylach o’r gweithdy a’r ddamcaniaeth wrth ei wraidd, gweler pennod 4, ‘What is Your Name?’ yn Laura Seymour, Early Modern Neurodivergence (Oxford University Press, 2026) – Early Modern Neurodivergence – Laura Seymour – Oxford University Press 

I ddarllen rhywfaint o’r gwaith rhagarweiniol a wnes i ar Hugh Blair, yn 2021-2024, gweler Seymour | Copying not Diagnosing: The Case of Hugh Blair of Borgue | Disability Studies Quarterly


A table containing two polyester lawyers' wigs, a pair of glasses, a grimy mid-eighteenth-century will folded into a square, clay, a small pile of seventeenth and eighteenth century coins, blue cards with questions on, a small ball of turquoise wool, a white squishy carrot, a poster of an eighteenth century painting of a young Black edinburgh milk seller, and a poster of a seventeenth century painting of an older woman in dark clothing and cap
Gwrthrychau a ddefnyddiwyd gennym yn y gweithdy: sbectol, wigiau, stimplements, gwlân, darnau arian o'r 18fed ganrif, ewyllys yr 18fed ganrif, cardiau cwestiynau, a phortreadau o'r Alban

 
 
 

Comments


bottom of page