Ffyliaid, Anifeiliaid, a Rheolaeth Gymdeithasol: Mygydau Cywilydd Trawsnewidiol yn Ewrop Fodern Gynnar
Bridger M. Bartlett, PhD
Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol AMEND
Sylwer: Mae’r darn hwn yn cynnwys trafodaethau am ddyfeisiau artaith a thrais a gormes ar sail rhywedd a hil yn ogystal ag ablaeth.
Mae’r darn hwn yn edrych ar fygydau cosb yn Ewrop fodern gynnar a’u perthynas â rhywedd, anifeiliaid, y syniad o ffolineb a niwroamrywiaeth. Dechreuais ymddiddori yn y ffordd y mae’r pynciau hyn yn dod ynghyd oherwydd darn yn nrama drasiedi 1614, The Duchess of Malfi, gan y dramodydd o Loegr, John Webster. Yn benodol, roeddwn i’n meddwl am y rhan lle mae’r llyswr Castruccio yn disgrifio ffŵl ei aelwyd: “he cannot speak, you know, but he makes faces; my lady cannot abide him. … Nor endure to be in merry company; for she says too much laughing, and too much company, fills her too full of the wrinkle.” Wrth ymateb, mae’r Ferdinand creulon, Dug Calabria, yn ateb, “I would, then, have a mathematical instrument made for her face, that she might not laugh out of compass” (1.1.129-37). Fel yr eglura Colby Gordon, mae’r disgrifiad yn awgrymu ffrwyn cecren (scold’s bridle), “a tool that restrains unruly women as though they were horses” (79). Neu fel pe baent yn gŵn, oherwydd byddai’r ffrwyn cecren (enw amgen Saesneg ar y teclyn oedd ‘branks’) yn cael ei gwisgo fel a ganlyn – “musled [cau ceg] over the head and face” (Gardiner 111), gan lesteirio tafod y sawl a oedd yn ei gwisgo a’i atal rhag parhau â’r siarad afreolus a arweiniodd at y gosb yn y lle cyntaf.
Yn chwilfrydig am sut y mae ffocws y darn o The Duchess of Malfi yn symud o ffŵl sy’n gwneud stumiau gwirion i wraig sy’n cael ei chosbi gyda theclyn a fyddai’n ei hatal rhag symud ei hwyneb (ac efallai rhag mynegi ei hun ar lafar), dechreuais chwilio am ddelweddau o ffrwynau cecren ar-lein. Daeth yn amlwg bod rhywbeth i’w ddweud am ffyliaid a ffrwynau cecren pan welais fod nifer o arteffactau sy’n cael eu hadnabod fel ffrwynau cecren gan amgueddfeydd a thai ocsiwn yn ymgorffori elfennau sy’n nodweddion cyffredin o ffyliaid yn niwylliant gweledol Ewrop yn y cyfnod modern cynnar – yn bennaf: clustiau asyn, sbectol, clychau, a phroffil tebyg i gwfl a/neu grib. Wrth i mi barhau i archwilio a dysgu am draddodiad cysylltiedig y ‘schandmaske’ neu fwgwd cywilydd, darganfyddais y gallai diwylliant ehangach o benwisgoedd cosb yn Ewrop yn y cyfnod modern cynnar osod ffŵl Castruccio ymhlith themâu The Duchess of Malfi mewn ffyrdd mwy cymhleth nag y dychmygais. Yn yr hyn sy’n dilyn, rwy’n trafod symbolaeth mewn mygydau cosb modern cynnar cyn myfyrio ar sut y mae niwroamrywiaeth yn cyd-fynd ag archwiliad Webster o anifeilrwydd, ymreolaeth a chamddefnyddio grym ac, yn olaf, rwy’n nodi pwysigrwydd meddwl am rywedd ochr yn ochr â phynciau sy’n gorgyffwrdd, niwroamrywioldeb a diwylliant o gywilydd, mewn moderniaeth gynnar.
Ffrwynau cecren gydag elfennau gweledol sy’n awgrymu ffyliaid:
17th-century German punishment mask 16th-century Scottish scold's bridle 16th-century punishment mask from Belgium
Mwgwd cosb Almaenig o’r 17eg ganrif sydd bellach yn Nhŵr Llundain; caiff ei ddisgrifio gan yr Arfdai Brenhinol fel ffrwyn cecren. Enghraifft arbennig o gref o fwgwd cywilydd sy’n defnyddio iaith weledol ffyliaid a ffolineb. Mae olion i’w gweld o’r paent coch a oedd yn gorchuddio’r gwrthrych cyfan yn wreiddiol. | Ffrwyn cecren Albanaidd o’r 16eg ganrif, o gasgliad Oriel Gelf ac Amgueddfa Kelvingrove yn Glasgow. Unwaith eto, mae olion o liwiau sylfaenol llachar yn dal ar y gwrthrych hwn. Ynghyd â chlustiau asyn, roedd defnyddio lliw fel hyn yn nodweddiadol mewn portreadau gweledol mewn cynrychioliadau gweledol o ffyliaid a ffolineb. | Ffrwyn cecren o Wlad Belg, o’r 16eg neu’r 17eg ganrif. Fel y cyfeiriodd Frederick W. Fairholt at fwgwd Almaenig hynod o debyg yn Transactions of the Historic Society of Lancashire and Cheshire mor bell yn ôl â 1854, ymddengys ei fod wedi’i gynllunio “in imitation of the hood worn by... jesters” (62). |
Ffrwyn Cecren. 17eg Ganrif, Yr Almaen. Arfdai Brenhinol. Anfasnachol / Ymchwil anfasnachol a defnydd personol © Arfdai Brenhinol | Mwgwd Cosb; Ffrwyn Cecren. Amgueddfeydd Glasgow. Collections Navigator. Mae’r gwaith hwn wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0. | Mwgwd “ffrwyn cecren” haearn o Wlad Belg a ddefnyddiwyd i fychanu rhywun yn gyhoeddus. Casgliad Wellcome, https://wellcomecollection.org/works/yfhbqur3. Attribution 4.0 International (CC BY 4.0) |
Roedd dyluniad llawer o ffrwynau cecren yn rhoi cryn bwys ar rwyddineb eu defnydd. Mae’r dyfyniad o 1655 gan Ralph Gardiner uchod, sy’n disgrifio swyddogaeth cau ceg y ddyfais, yn esbonio mai dyma yw “the punishment which the Magistrates do inflict upon chiding, and scoulding women” (111), ac mae darlun yn cyd-fynd â’r darn o “one Ann Biulestone drove through the streets by an Officer” yn Newcastle, ei phen wedi’i amgáu mewn gwrthrych tebyg i gawell diaddurn (110). Mae’n debyg mai’r elfen fwyaf trawiadol o’r “Engine called the Branks” hwn yw’r ”great gap or tongue of Iron forced into her mouth” (111).

Mae’r Grynwraig amlwg Dorothy Waugh yn siarad o brofiad am y math hwn o gosb mewn pamffled a argraffwyd flwyddyn yn ddiweddarach. Mae hi’n manylu ar “their bridle as they called it, which was a stone weight of Iron,” a sut yr oedd “three barrs of Iron to come over my face, and a peece of it was put in my mouth, which was so unreasonable big a thing for that place as cannot be well related, ... to keep me from speaking” (30).Yn drwm ac anghyfforddus, roedd ffrwyn cecren yn ddyfais arteithio a oedd (yn ei ffurf fwyaf safonol) yn tawelu’r sawl a oedd yn gorfod ei gwisgo mewn ffordd greulon, a hynny heb sôn am ei swyddogaeth ychwanegol o’i chywilyddio a’i bychanu yn gyhoeddus.
Er mai tawelu’r sawl a oedd yn ei gwisgo oedd prif ddiben ffrwyn cecren, roedd mygydau cosb eraill yn Ewrop y cyfnod modern cynnar yn cael eu diffinio trwy eu swyddogaeth symbolaidd i godi cywilydd.1 Roedd y ‘schandmasken’, neu fygydau cywilydd, yn fwy nag arwyddion amwys bod y sawl a oedd yn eu gwisgo’n cael eu cosbi am ryw gamwri anhysbys; roedd ganddynt ffurfiau ffantastig a oedd yn cuddio wyneb y gwisgwr gyda symbol grotésg, bwystfilaidd fel arfer, i adleisio’r math penodol o drosedd a oedd yn cael ei chosbi. Mae ‘schandmasken’ anifeilaidd sydd wedi goroesi yn aml yn darlunio wyneb mochyn (i godi cywilydd am bechodau fel glythineb neu aflerwch) (McDonald; Terry-Fritsch); “a seventeenth-century mask from Ingolstadt that takes the shape of a rooster’s head,” meanwhile, most likely “emphasized the male offender’s preposterous vanity,” esbonia Allie Terry-Fristch (67).
Mae ‘schandmasken’ eraill wedyn sy’n portreadu ffurfiau lled-ddynol gyda phryd a gwedd dychrynllyd a dros-ben-llestri. Mae Marie Louise Herzfeld-Schild yn cyfeirio at nodweddion mygydau i godi cywilydd ar fenywod am hel clecs neu droseddau eraill cysylltiedig â siarad: “big ears … (they heard everything), eyeglasses (they saw everything) and big mouths and long tongues (they spread vicious rumours)” (17). Er nad yw tafodau mawr ac ymwthiol yn nodwedd sylweddol mewn eiconograffeg ffyliaid yn y cyfnod modern cynnar, mae’n nodwedd sy’n werth ei nodi oherwydd ei bod yn ffurfio llinyn arian (ac yn ymddangos gyda’i gilydd hyd yn oed) gyda mecanwaith cau ceg ffrwyn cecren fel ymateb uniongyrchol i siarad afreolus gan fenywod. Yn gyffredin iawn, ymddengys, mae gan fygydau cywilydd glustiau asyn a sbectol amlwg. Yn ogystal, mae gan lawer ohonynt glychau sy’n helpu i dynnu sylw at y troseddwr.
Portrait of a jester holding eyeglasses. Unknown Artist: Laughing Jeste40s, Wikimedia Commons A schandmaske from Bavaria. Schandmaske, Bayerisches Nationalmuseum. Undated. CC BY-NC-ND 4.0.
Jester Chwerthin. 1540au, yn ôl pob tebyg o'r Iseldiroedd. Amgueddfa Genedlaethol, parth cyhoeddus. https://collection.nationalmuseum.se/en/collection/item/23832/ | Schandmaske. Heb ddyddiad, Bafaria. Bayerisches Amgueddfa Genedlaethol. CC BY-NC-ND 4.0. https://www.bayerisches-nationalmuseum.de/en/collection/00040154 |
Roedd ‘schandmasken’ a darluniau o ffyliaid yn rhannu’r un eirfa eiconograffig, yn sicr. Drwy’r eirfa honno, roedd mygydau cywilydd gydag adlais o ffyliaid yn ymwneud â’r un math o rethreg weledol â mygydau anifeiliaid. Mae amlygrwydd ffyliaid yn niwylliant Ewropeaidd yn y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar yn deillio i raddau helaeth o’u rôl fel ffyrdd hyblyg o bortreadu pechadurusrwydd. Defnyddiodd Sebastian Brant ffyliaid i ymgorffori llwyth o bechodau yn ei alegori Ship of Fools ym 1494, a phwysodd Erasmus ar ffolineb wrth ysgrifennu am wallau dynol oherwydd bod ffŵl, ar y cyfan, yn rhywun nad yw’n meddwl nac yn ymddwyn fel pobl eraill ac wrth wneud hynny yn datgelu bod anfadrwydd yn afresymol neu’n gyntefig.
Credaf ei bod yn arwyddocaol bod ysgolheigion yn nodi bod ‘schandmasken’ sy’n adleisio ffyliaid, ond heb adleisio anifeiliaid, wedi cael eu cynllunio i godi cywilydd ar bobl am hel clecs. Hyd heddiw, mae hel clecs – a siarad gwag neu siarad cas yn ei ystyr ehangach – yn cael ei bortreadu’n ystrydebol fel pechod menywaidd. Am eu bod yn siarad ar eu cyfer, roedd menywod yn cael eu labelu’n gecrennod ac weithiau’n cael eu cosbi gyda’r ffrwyn cecren. Mae’n gwneud synnwyr bod clustiau asyn a sbectol, ond anaml wynebau anifeiliaid, yn ymddangos ar ddyfeisiau i atal tafod y gwisgwr gan mai dyma’r elfennau a ddefnyddiai ‘schandmasken’ i godi cywilydd am dramgwyddau tebyg.
Mae John Milton yn tueddu tuag at yr un iaith alegorïaidd a ddefnyddiwyd gyda ‘schandmasken’ (ac o bosibl tuag at y mygydau eu hunain) yn Masque Presented at Ludlow Castle o 1634, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth y teitl Comus. Mae’r bobl sydd wedi ymroi i ffyrdd y cymeriad sy’n hawlio’r teitl, Comus, sy’n ymgorfforiad o ymblesera archwaethol, wedi troi’n “monsters headed like sundry sorts of wild beasts, but otherwise like men and women” (cyfarwyddyd llwyfan 92.2-3), ac eto
so perfect is their misery, [that they]
Not once perceive their foul disfigurement,
But boast themselves more comely than before
And all their friends, and native home forget
To roll with pleasure in a sensual sty. (llinellau 73-77)
Mae anffurfiad gweladwy pennau dilynwyr Comus yn bwysig, oherwydd ei fod yn drawsnewidiad o “their human countenance, / The express resemblance of the gods” i “some brutish form of wolf, or bear, / Or ounce, or tiger, hog, or bearded goat” (ll. 68-71), ond mae’r hyn y mae’r trawsnewidiad allanol hwn yn ei gynrychioli yn bwysicach fyth: bod y meddwl rhesymegol, (ac i lawer o feddylwyr y cyfnod modern cynnar) y meddwl unigryw, sydd bron yn adlais o feddwl Duw sy’n caniatáu i fodau dynol adnabod a charu Duw, yn dirywio i feddwl anifeiliaidd, bwystfilaidd a chreulon, nad yw’n dirnad ei anfadrwydd ei hun, meddwl sy’n anghofio hunaniaeth, perthnasoedd a phopeth ar wahân i bleserau cnawdol uniongyrchol.

Mae’r ffaith i Milton gynnwys dilynwyr bwystfilaidd Comus yn ei masque yn caniatáu i ni weld sut – yn benodol – y mae ‘schandmasken’ anifeiliaid yn eu hanfod yn cywilyddio gwisgwyr am droi eu cefn ar rodd Duw o resymeg ddynol ac am gofleidio anian syml a difeddwl bwystfil. Mae o leiaf ddwy elfen o ablaeth niwronormadol ar waith yn y rhesymeg y tu ôl i ‘schandmasken’ a’r “rout of monsters” (cyfarwyddyd llwyfan 92.2) yng ngwaith Milton: yn gyntaf, mae rhesymeg yn tybio bod dynoliaeth a’i hurddas (unigryw, dwyfol) wedi’u gwreiddio mewn cyfres o alluoedd meddyliol nad yw pob aelod o’n rhywogaeth yn rhannu neu’n meddu arnynt yn yr un modd; yn ail, mae’r rhesymeg hon yn condemnio meddyliau sy’n digwydd bod yn canolbwyntio ar uniongyrchedd a’r synhwyraidd fel meddyliau sy’n dioddef o ddiffyg duwioldeb, rhinwedd, doniau meddyliol breintiedig a dyneiddiaeth.
Nid yw condemnio moesol ymddygiad anghyfreithlon a hunanol bob amser yn anghywir nac (o reidrwydd) yn ableddol, ond mae’r math hwn o feddwl yn golygu mai pechadurusrwydd anneallus yw’r unig lens sydd ar gael i ddeall gweithredoedd a allai fod yn gysylltiedig â heriau gweithredu goruchwyliol neu fathau eraill o niwroamrywiaeth. Ac mae’r ffordd hon o edrych ar gamymddwyn, yn fy marn i, yn un o’r prif resymau pam mae ffyliaid yn ymgorfforiadau mor ddefnyddiol a hyblyg o bechadurusrwydd yn gyffredinol a mathau unigol o bechod yn niwylliant y cyfnod modern cynnar: roeddent yn eu hanfod yn labelu’r anfadrwydd dan sylw fel peth anystyriol ac ysgeler, a bod mwy nag awgrym o wirionedd yn y syniad bod unigolion “ffôl” yn arbennig o dueddol o gyflawni’r hyn a oedd yn cael ei ystyried yn gamweddau bwystfilaidd.
Mae ffŵl domestig Castruccio yn swnio’n eithaf diniwed. Efallai ein bod ni hyd yn oed i fod i gytuno gyda Ferdinand bod y wraig, Julia, yn foesol anghywir am ofni rhychau ac am fod yn amharod i werthfawrogi wynebau doniol y ffŵl. Ac oherwydd ei balchder a’i hagwedd gynhennus, y byddai Ferdinand yn gwneud iddi wisgo “mathematical instrument” sylfaenol mysogonistaidd i’w bychanu, a hynny’n benodol trwy awgrymu nad yw hi’n ddim gwahanol i’r ffŵl anabl a mud y mae hi’n ei ddirmygu. Drwy’r rhwydwaith o gysylltiadau diwylliannol sy’n clymu mygydau cosb a ffolineb ag anifeiliaid, fodd bynnag, mae Ferdinand yn ddiarwybod iddo’i hun yn rhagweld ei daith ei hun yn ystod y ddrama.
Mae cyfres dreisgar o gymhellion mysogonistaidd yn sbarduno Ferdinand i gyflawni cyfres o droseddau erchyll yn erbyn ei chwaer, neu i drefnu eu bod yn cael eu cyflawni, ac mae ei euogrwydd yn y pen draw yn ei yrru yn wallgof. Mae trawsnewid i fod yn anifail yn fotiff pwysig yn y ddrama, ac mae gwallgofrwydd Ferdinand yn y pen draw yn ymddangos ar ffurf benodol: “A very pestilent disease ... / They call lycanthropia” (5.2.5-6) lle mae dioddefwyr “imagine / Themselves to be transformed into wolves” (9-10) ac yn ymddwyn felly, yn tyrchu cyrff marw o’r pridd ac yn udo. Mae Sonya Freeman Loftis yn dweud bod Webster yn defnyddio lycanthropedd i bortreadu Ferdinand fel creadur bwystfilaidd ac anabl ar yr un pryd. Mae anallu anifeilaidd i arfer pwerau meddyliol “dynol” neu, i fod yn decach, pwerau meddyliol niwronodweddiadol a niwronormadol yn datblygu yn sgil camweddau amlwg anfad Ferdinand a’i ysfa bengaled am ddyheadau gwaharddedig. Ynghyd â chwant llosgachol am ei chwaer, maent hefyd yn cynnwys ysfa falch, ddicllon a hunanol i’w rheoli. Efallai bod Ferdinand yn cael ei lawn haeddiant wrth gael ei wneud yn anabl a’i fwystfileiddio o ganlyniad i fodloni ei ysfa afiach i fychanu a dominyddu’n gorfforol menywod sy’n gwrthod cydweithredu â disgwyliadau cymdeithasol. Ond yr unig ffordd y mae cyfiawnder o’r fath yn gweithio yw ar y sail bod gwahaniaethau meddyliol y gellid eu labelu’n “ffolineb” neu “wallgofrwydd” yn gynhenid ddrwg, fel y “foul disfigurement” sydd i’w ystyried yn beth mor ofnadwy am griw Comus, er gwaetha’r ffaith nad ydynt yn sylwi ar hynny nac ar eu gofid fel y cyfryw, “But boast themselves more comely than before.”
Yn sicr, ni fyddai unrhyw un a gosbwyd â ffrwyn cecren neu ‘schandmaske’ yn anymwybodol o’r dioddefaint yr oedd yn ei achosi, nac yn anymwybodol o’r argraff a roddwyd i’w holl ffrindiau a phawb yn y cyffiniau. Ond gallai gwerthfawrogi’r ablaeth (a’r anthropoganoledd) sy’n strwythuro’r cosbau hyn ein helpu i feithrin dealltwriaeth fwy dwys o sut yn union yr oedd y cosbau hyn yn cael eu profi a’u defnyddio.

Wrth dynnu tua’r terfyn, byddwn ar fai pe na bawn yn nodi pa mor bwerus oedd chwilio am ddelweddau a gwybodaeth ynghlwm wrth y traddodiad hwn o ran tystio i bwysigrwydd dadansoddiadau croestoriadol lle na fyddem efallai hyd yn oed yn disgwyl iddynt fod yn berthnasol. Rhaid i waith ymchwil pellach ar fygydau cosb a ddefnyddiwyd i gau cegau pobl, eu harteithio neu eu hatal rhag bwyta ystyried bodolaeth eitemau o’r fath yng nghyd-destun caethwasiaeth hiliol. Roedd trin pobl fel anifeiliaid a honni bod eu gallu meddyliol yn israddol yn nodweddion amlwg o gaethwasiaeth a darostwng pobl Ddu a phobl Frodorol o dan oruchafiaeth Ewrop yn ardal yr Iwerydd a’r Americas yn ystod y cyfnod modern cynnar. Nid oedd y celwyddau hyn am israddoldeb yn wahanol yn eu hanfod i’r celwyddau a ddefnyddiwyd i ormesu menywod ar y pryd, ac roedd modd defnyddio cyfarpar tebyg iawn i orfodi’r gorthrwm hwnnw.
Yn olaf, mae fy ymchwil i fy hun wedi ymgysylltu fwyfwy â’r ffyrdd y mae diwylliant modern cynnar yn aml yn cynrychioli niwroamrywioldeb fel peth cyfarwydd trwy darfu ar normau rhywedd. Roeddwn i eisiau dyfynnu sylw Gordon am yr olygfa yn The Duchess of Malfi a ysbrydolodd y darn hwn, yn bennaf oherwydd mai dyma, hyd y gwn i, yw’r unig gydnabyddiaeth feirniadol y mae cyfeiriad ymddangosiadol Webster at benwisgoedd cosb wedi’i dderbyn. Rwy’n credu ei bod yn arwyddocaol, fodd bynnag, bod y sylw byr hwn yn dod o lyfr Gordon, Glorious Bodies: Trans Theology and Renaissance Literature. Mae dilynwyr pen anifeiliaid Comus, o’u rhan hwy, wedi bod ar fy meddwl yn gyson ers clywed Sawyer K. Kemp yn cyflwyno darlith amdanynt yn y Symposiwm Astudiaethau Traws Cyn-Fodern a Modern Cynnar a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Boston ym mis Mawrth 2025. O ystyried y cefndir hwn o astudiaethau traws, rwyf hefyd eisiau nodi wrth gloi bod mwstásh neu farf i’w gweld ar nifer o’r mygydau mwy cywrain i mi ddod o hyd iddynt – addurniadau diddorol ar gyfer eitemau a ddefnyddiwyd yn bennaf ar fenywod.
Mae’n ymddangos yn amlwg mai’r diben oedd codi cywilydd ar fenywod am fethu â bodloni disgwyliadau’r oes am fenyweidd-dra ac am anghofio eu statws cymdeithasol darostyngedig. Serch hynny, mae trawsnewidiadau The Duchess of Malfi a Comus yn awgrymu’r posibilrwydd o lithriadau rhwng traws-rywedd a thraws-rywogaeth yn sgil methu neu wrthod cydymffurfio â rolau cymdeithasol disgwyliedig. Yn y cyfamser, roedd ffyliaid fel un Castruccio yn sefyll y tu allan (neu’n cael eu cau allan) i drefn gyffredin perthnasoedd rhywedd a’u gwleidyddiaeth rywiol. Mae’n cael ei fychanu am ei anabledd, ond mae hefyd, fel criw Comus, wedi’i leoli y tu hwnt i gyfyngiadau cywilydd. Er na ellir gwadu creulondeb mygydau cosb go iawn, gallai ymgysylltu diwylliannol â’r mathau o drawsnewidiadau a achoswyd ganddynt esgor ar y posibilrwydd o weld trawsnewidiad fel rhywbeth rhyddhaol yn hytrach na rhywbeth poenus a chyfyngol.
Bridger M. Bartlett PhD yw cydymaith ymchwil ôl-ddoethurol AMEND. Yn fras, mae eu hymchwil yn canolbwyntio ar niwroamrywiaeth fel ystyriaeth groestoriadol yn niwylliant Lloegr yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Ynghyd â Laura Seymour a Bradley J. Irish, maent yn gyd-olygydd y casgliad Neurodiversity and Early Modern English Literature (yn yr arfaeth gan Edinburgh University Press). Mae ymchwil Bartlett wedi ymddangos yn ELH a JEMCS, ac yn ddiweddar maent wedi cwblhau llawysgrif fonograff ar niwroamrywiaeth a chreu hil mewn llenyddiaeth Saesneg fodern gynnar.
Llyfryddiaeth
City of Bernau. “Museumsgeschichten Aus Bernau: Die Schandmaske.” Stadtnachrichten, 1 Jan. 2025, https://www.bernau.de/de/rathaus-service/aktuelles/stadtnachrichten/artikel-museumsgeschichten-aus-bernau-die-schandmaske.html.
Craig, Kenneth M. “Proverb’s Progress: ‘A Fool Looking through His Fingers.’” DQR Studies in Literature, vol. 10, 1992, pp. 105-36.
Fairholt, Frederick W. “On a Grotesque Mask of Punishment Obtained in the Castle of Nuremberg.” Transactions of the Historic Society of Lancashire and Cheshire, vol. 7, 1854, pp. 61–64, https://doi.org/10.3828/transactions.7.4.
Gardiner, Ralph. Englands Grievance Discovered. 1655. Early English Books Online, https://www.proquest.com/eebo/docview/2248551944/12268641/CF5EFB0414CB4C67PQ/26?accountid=14680&sourcetype=Books.
Gordon, Colby. Glorious Bodies: Trans Theology and Renaissance Literature. U of Chicago P, 2024.
Herzfeld-Schild, Marie Louise. “’He Plays on the Pillory’. The Use of Musical Instruments for Punishment in the Middle Ages and the Early Modern Era.” Torture, vol. 23, no. 2, 2013, pp. 14–23.
Loftis, Sonya Freeman. “Lycanthropy and Lunacy: Cognitive Disability in The Duchess of Malfi.” Monstrosity, Disability, and the Posthuman in the Medieval and Early Modern World, edited by Richard H. Godden and Asa Simon Mittman, Palgrave Macmillan, 2019, pp. 209–25. Springer Link, https://doi.org/10.1007/978-3-030-25458-2_10.
McDonald, Bonny. “Sacred Waste: Performance Pedagogy, Plastic Shamanism, and Ten Thousand Pieces of Trash.” Liminalities: A Journal of Performance Studies, vol. 11, no. 4, 2015, pp. 1-22. Academia.edu, https://www.academia.edu/21741432/Sacred_Waste_Performance_Pedagogy_Plastic_Shamanism_and_Ten_Thousand_Pieces_of_Trash.
Milton, John. A Masque Presented at Ludlow Castle, 1634. Milton: The Complete Shorter Poems, edited by John Carey, 2nd ed., Longman, 1997, pp. 175–234.
Terry-Fritsch, Allie. “Animal Trials, Humiliation Rituals, and the Sensuous Suffering of Criminal Offenders in Late Medieval and Early Modern Europe.” Visualizing Sensuous Suffering and Affective Pain in Early Modern Europe and the Spanish Americas, edited by Heather Graham and Lauren G. Kilroy-Ewbank, Brill, 2018, pp. 53–81, https://doi.org/10.1163/9789004360686_004.
Waugh, Dorothy. “A Relation Concerning Dorothy Waughs Cruell Usage by the Mayor of Carlile.” The Lambs Defence against Lyes, edited by “those people scorned and persecuted under the name of QUAKERS,” 1656, pp. 29–30. Early English Books Online, https://www.proquest.com/eebo/docview/2240903989/99864299/6D5AF569EFFC44B2PQ/1?accountid=14680&sourcetype=Books.
Webster, John. The Duchess of Malfi. Edited by John Russell Brown, Methuen, 1964.




Comments