Adolygiad o Reading Literature and Chronic Pain gan Josie Billington (Bloomsbury, 2025)
Laura Seymour, Prifysgol Abertawe
Mae Reading Literature and Chronic Pain yn llyfr pwysig i’n prosiect oherwydd ei fod yn dilysu ac yn archwilio un o brif elfennau ein gwaith ymchwil: y ffyrdd y gall darllen gefnogi lles. Wrth ysgrifennu am yr astudiaeth amlddisgyblaethol y tu ôl i’r llyfr, mae Billington, arbenigwraig lenyddol ym maes llenyddiaeth ac iechyd, yn esbonio:
‘We had demonstrated with scientific robustness that the combination of reading literary works, fiction and poetry, and the group experience had alleviated symptoms of depression to a “statistically significant” degree.’ (t. ix).
Roedd yr astudiaeth hon yn cymharu’r arfer o gyd-ddarllen—darllen darn byr o ffuglen neu gerdd gydag arweinydd grŵp—a defnyddio therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) i ymyrryd â phoen cronig. Mae Billington yn adrodd bod gan aelodau’r grŵp darllen sgôr poen is ar ôl cyd-ddarllen o’i gymharu ag ar ôl CBT; ar ben hynny (yn wahanol i CBT), roedd y graddfeydd poen is hyn yn parhau y tu hwnt i gyfnod penodol y grŵp darllen (t. 77).
Cyfuniad o hanes a thystiolaeth sylfaenol
Er mai tystiolaeth sylfaenol (gan gynnwys ambell ddyfyniad digyswllt gan unigolyn na chafodd ei enwi, a oedd braidd yn chwithig i mi) yw craidd y llyfr (t. 75), mae Billington hefyd yn darparu cefndir damcaniaethol i’r syniad o boen cronig fel profiad treiddiol, ac un sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a bywyd emosiynol person. Mae cyfeirbwyntiau allweddol yn y damcaniaethu a geir ynglŷn â'r hyn a alwn bellach yn boen cronig – hanes y mae Billington yn ei olrhain – yn cynnwys yr anthropolegydd Jean Jackson, ynghyd â Sigmund Freud ac Elaine Scarry. Mae ‘Ymerodraeth Boen’ fondigrybwyll y teulu Sackler yn taflu’i chysgod ar draws y tudalennau yma ac acw. Er mwyn atgyfnerthu’r drafodaeth hon, mae Billington yn amlinellu ambell ddealltwriaeth feddygol o boen cronig nad wyf i’n gymwys i asesu eu dilysrwydd ond sy’n nodi sawl cysylltiad sy’n ddeunydd cnoi cil, megis cysylltiadau rhwng poen cronig mewn oedolion a cham-drin rhywiol yn ystod plentyndod.
Roedd y testunau a rannodd y grwpiau darllen yn cynnwys llenyddiaeth o Brydain, Gogledd America ac Iwerddon o’r cyfnod rhwng y 19eg a’r 21ain ganrif (yr awduron cynharaf a drafodwyd oedd Charles Dickens a Christina Rossetti). Mae’r math hwn o ddeunydd darllen yn codi’n aml wrth ymarfer bibliotherapi, ac nid yw’n cyfiawnhau pwyso a mesur ei werth ynddo’i hun. Bydd ein prosiect ymchwil yma yn Abertawe yn archwilio potensial therapi darllen grŵp penodol arall: llenyddiaeth Ewrop o’r cyfnod modern cynnar. Yn fy ymarfer bibliotherapi, fodd bynnag, rwyf wedi darganfod y gall fod yn effeithiol po fwyaf amrywiol ydyw: gall cynnwys e-gronau, geiriau caneuon a llenyddiaeth o gyfnodau a diwylliannau llawer ehangach ein helpu ni i fod mor ymatebol â phosibl i ddarllenwyr-gleientiaid. Roeddwn i’n falch o weld Billington yn pwyntio tuag at ganrifoedd o hanes o wybodaeth am ddefnyddio llyfrau a darllen i archwilio, deall a lleddfu poen, wrth iddi gyfeirio at ymchwil ar effeithiau canu emynau a darllen yr ysgrythurau yn y 19eg ganrif ar y Methodist Joseph Townend (tt. 34-6). Credaf ei bod yn hanfodol parhau i edrych tua’r gorffennol am yr hyn a fyddai bellach yn cael ei alw’n ddamcaniaeth, sgiliau a gwybodaeth ym maes anabledd a niwroamrywiaeth (o’r canu a’r darllen crefyddol sy’n destun archwilio gan Billington, i’r syniadau o ddarllen ac ysgrifennu fel achos prudd-der/ iachâd o brudd-der yn The Anatomy of Melancholy gan Robert Burton i’r masque iachâd sy’n cael ei ddarlunio yn The Lover’s Melancholy gan John Ford). Mae hyn yn helpu i wrthsefyll rhethregau lleihaol yn y byd academaidd a’r cyfryngau sy’n disgrifio astudiaethau anabledd ac astudiaethau niwroamrywiaeth fel meysydd diweddar neu chwiwiau byrhoedlog. Po fwyaf gweladwy yw damcaniaethau’r gorffennol yn eu holl gymhlethdod, y mwyaf y gallwn eu hanrhydeddu fel rhan o’n maes ni ein hunain heddiw, hyd yn oed os oedd pobl yn defnyddio labeli a chysyniadau gwahanol.
Gan ddefnyddio mynegiant eithaf gofalus, mae Billington yn cyfeirio yn y rhagair at ganfod tystiolaeth rannol yn unig am y ffyrdd y mae darllen llenyddiaeth yn darparu ‘something more complicated than, and perhaps as needful as, a simple remedy’ (t. x). Fodd bynnag, yn fy marn i, roedd ei chasgliadau yn llawer mwy argyhoeddiadol na’r hyn y mae natur ofalus y geiriau hynny yn ein paratoi ni ar ei gyfer, gyda goblygiadau o ran lliniaru poen, llenyddiaeth a meddygaeth naratif. Mae Reading Literature and Chronic Pain yn dangos ‘the power of literature to shift, challenge or indeed find personal narrative’ (t. 110). Casgliad pellach, a hwnnw’n gasgliad mwy ymhlyg efallai, yw bod y newid hwn yn arbennig o bwerus pan fydd darllen yn digwydd mewn grwpiau. Mae Billington yn nodi drwy’r llyfr y gallai darllen llenyddiaeth fod yn adnodd defnyddiol a chefnogol mewn sawl cyd-destun, gan gynnwys therapi siarad a meddygaeth naratif. Y tu hwnt i hynny, gwelais ei fudd mewn perthnasoedd rhyngbersonol beunyddiol: er enghraifft, rhannu cerdd gyda grŵp ffrindiau yn ymwneud â phrofiad cyffredin i bob un ohonynt. Wrth gyfeirio at Susan, un aelod o’r grŵp darllen, mae Billington yn dweud:
‘Susan did not want to “tell her story” in a conventional sense and would have resisted any call to do so, not least because her experience did not permit of simple of straightforward telling…But she emphatically does not resist – quite the contrary – the power of the poem to discover and express her deep inner trouble without diminishment of its reality.’ (t. 142)
Yn ôl Billington, un o’r prif resymau dros effaith gadarnhaol darllen ar boen cronig yw ei fod yn galluogi pobl i roi enw ar eu hemosiynau ar lefel fwy manwl. Mae hi’n adrodd am gysylltiad hyn â llu o fanteision, gan gynnwys arosiadau ysbyty llai aml a llai o ddibyniaeth ar feddyginiaeth (t. 192). Mae hefyd yn galluogi dioddefwyr poen i ail-fframio eu profiadau, ‘open to a rewired vision or perspective, catalysed by the poem’s own’ (t. 192). Rwyf wedi dod ar draws effeithiau tebyg yn fy ymarfer ac yn fy ymchwil fy hun (e.e. darllen Hamlet gyda phrofiad bywyd o niwroamrywioldeb a synio am hunanladdiad er bod llyfr Billington yn mynd i’r afael â darllen a lles mewn ffordd fwy cyffredinol a chyson). Tua diwedd y llyfr, mae Billington yn canolbwyntio ar ryng-oddrycholdeb yn y grwpiau darllen, gan ddadansoddi microfynegiant aelodau’r grŵp (recordiwyd y sesiynau grŵp ar fideo) i arsylwi sut yr oeddent yn ymateb i’r testun ac i’w gilydd. Mae’r dadansoddiad hwn, a dyfyniadau gan aelodau, yn awgrymu bod y grwpiau yn teimlo’n ddiogel ac yn glos, fel un teulu bach.
Casgliad: tarfu ar y personol
Drwyddi draw yn yr astudiaethau achos sy’n cael eu cyflwyno yn y llyfr hwn, roedd aelodau’r grŵp darllen yn cysylltu’r testunau yn helaeth â’u profiadau personol: fel y dywedodd un aelod o’r grŵp darllen poen cronig, “You’re not asked to respond personally, you just do.” (t. 187) A yw’r ymateb personol uniongyrchol hwn i lenyddiaeth yn reddf y mae beirniadaeth lenyddol draddodiadol – fel y caiff ei haddysgu a’i harfer mewn ysgolion a phrifysgolion – yn tarfu arni? Gwnaeth gwaith Billington i mi feddwl: beth pe bai ein harholiadau yn cynnwys cwestiynau fel, ‘Beth wnaeth y llyfr hwn ei ddysgu i chi am fywyd?’, ‘Sut y gwnaeth y llyfr hwn gefnogi eich lles?’, ‘Disgrifiwch effaith ymgysylltu â’r testun hwn ar eich emosiynau’, gan gysylltu â meini prawf asesu sy’n canolbwyntio ar les a hunan-adnabyddiaeth dysgwyr. Ydych chi’n meddwl bod hyn yn wirion? Ond pam fyddech chi?
O ran gwaith ymchwil i effeithiau darllen llenyddiaeth ar les, a beirniadaeth lenyddol ar les, mae’n hanfodol bwysig nad ydynt yn cael eu cadw’n gyfan gwbl ar wahân. Bydd cysylltu’r llyfr newydd hwn gan Billington â gwaith diweddar gan ysgolheigion fel Stephanie Aspin yn ein helpu i werthfawrogi nad yw’r cyfryw astudiaethau yn rhai untro, ond yn rhan o rwydwaith amyneddgar a pharhaus o ysgolheictod ac ymarfer. Gall hyn fod yn sylfaen i ni ar gyfer integreiddio gwerthfawrogiad o les i raddau mwy helaeth i addysgu ac ymarfer beirniadaeth lenyddol.
Waeth a ydych yn cytuno y byddai’r darlun dychmygol hwn o fyd addysgol a llenyddol-feirniadol hwn yn beth da ai peidio, gobeithio y gallwch weld pam fy mod i’n ystyried casgliad Billington yn un mor rymus. Fel yr esbonia Billington, mae’r union bwynt nad oes gan lyfr ‘…agenda in relation to the reader, nor any knowledge of or interest in their pain, at once uniquely disinterested and uniquely engaged, literature is that rare thing in our culture: a specialist discourse that is open to everyone, and always there, anywhere, anytime, whenever you need it’ (t. 200)
Laura Seymour yw prif ymchwilydd AMEND.




Comments