Beiblau Caergrawnt Hygyrch: 1591 a 2026
Bridger M. Bartlett, Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

Cambridge University Press yw’r cyhoeddwyr diweddaraf o blith llawer i gynhyrchu argraffiad o destun crefyddol sydd wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i bobl â dyslecsia ac anableddau eraill sy’n gysylltiedig â darllen .Fel y dywed y cyhoeddiad gan y wasg ei hun, Caergrawnt yw’r wasg hynaf a mwyaf hirhoedlog yn y byd ym maes Beiblau a Llyfrau Gweddi, ar ôl argraffu ei Beibl cyntaf ym 1591. Bydd y blog hwn yn myfyrio ar gyhoeddiad Crystal Edition o Fersiwn Safonol Saesneg (ESV) y Testament Newydd Cristnogol, y fersiwn dyslecsia-gyfeillgar, ac yn dwyn i gof argraffiad Beibl cyntaf Caergrawnt, a sut yr oedd yr argraffiad hwnnw’n rhan o fudiad eang i wneud y Beibl a Christnogaeth yn fwy hygyrch i fwy o bobl.
Argraffiad o Feibl Genefa oedd yr argraffiad hwnnw yng Nghaergrawnt ym 1591. Wedi’i argraffu am y tro cyntaf 31 mlynedd ynghynt ym 1560, roedd Beibl Genefa yn gyfieithiad cyflawn Saesneg cynnar o’r Beibl Protestannaidd. Fe’i gelwid yn Feibl Genefa oherwydd iddo gael ei gynhyrchu yn y ddinas honno yn y Swistir, gan Brotestaniaid o Loegr a geisiodd loches yno yn ystod erledigaethau’r Frenhines Mari. Ymateb oedd hynny i safbwynt y Diwygwyr, a oedd yn argymell cyfieithu’r Beibl i ieithoedd brodorol fel bod pobl gyffredin nad oeddent yn darllen nac yn siarad Lladin, yn gallu cyrchu a phori yn yr ysgrythurau yn ddilyffethair. Mae blog Cambridge Bibles yn tynnu sylw at nodweddion penodol Beibl Genefa a oedd yn ei wneud yn fwy hygyrch fyth i gynulleidfa werinol ehangach: teip syml; pris cymharol isel; cyflwyniadau, crynodebau ac esboniadau i hwyluso dealltwriaeth; mapiau ac elfennau gweledol eraill.
Erbyn heddiw, rydyn ni’n aml yn cysylltu’r termau ‘cyrchu’ a ‘hygyrchedd’ â’r drefn o hwyluso defnydd gan bobl ag anableddau yn benodol. Yn ddiddorol iawn, mae dyluniad Testament Newydd dyslecsia-gyfeillgar CUP yn creu cysylltiad rhwng hygyrchedd penodol i anabledd a’r gwaith arloesol a wnaed i wneud Beibl Genefa yn destun hygyrch i gymaint o bobl â phosibl. Tra bod teip dyslecsia-gyfeillgar cynharach yn canolbwyntio ar ddefnyddioldeb ar gyfer cynulleidfa ddyslecsig yn unig, mae blog Cambridge Bibles yn esbonio bod y dyluniad a ddatblygwyd ar gyfer CUP – o’r enw Grace – yn pwysleisio addasrwydd i bawb. Mewn geiriau eraill, mae’r teip hwn wedi’i greu i deimlo’n groesawus ac yn anymwthiol i bawb, gyda’r un blog yn nodi ei fod yn gwneud yr Ysgrythur yn fwy darllenadwy, nid er hwylustod ond er mwyn bod yn gynhwysol.
Ymhlith y strategaethau ar gyfer hygyrchedd cyffredinol sy’n ymddangos yn Nhestament Newydd ESV Crystal mae digon o le gwag ac un golofn o destun ar gyfer pob tudalen. Byddwn i’n dadlau bod yr elfennau dylunio hyn yn parhau â’r ymdrechion tuag at hygyrchedd cyffredinol a oedd yn bodoli, mewn ffordd ddigon penodol, y tro cyntaf i CUP argraffu Beibl. Gall hynny swnio’n rhyfedd o ystyried rôl nodiadau ymylol ac elfennau atodol eraill i wneud Beibl Genefa yn hygyrch i bobl gyffredin Lloegr yr 16eg ganrif, ond gall anghenion hygyrchedd cymdeithasol newid wrth i dechnoleg a’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau ddatblygu. Wedi’r cyfan, doedd dim peiriannau chwilio yn bodoli 500 mlynedd yn ôl. Ac ni fyddai peiriannau chwilio fel y maen nhw heddiw yn bodoli heb i lythrennedd ddod yn rhan fwy cyffredin ac anochel o drefn bywyd ers 1591.
Mae’n ddiddorol dyfalu sut y gallai Beibl gwerinol o’r 16eg ganrif fod wedi gwneud ei hun mor hygyrch i ddarllenwyr dyslecsig ag i ddarllenwyr cyffredin heb ddealltwriaeth o Ladin, neu a fyddai wedi gallu hynny o gwbl, ond mae'n llawn mor bwysig cydnabod efallai na chafodd gwahaniaethau o ran darllen – sy'n cael eu hystyried yn eang yn anableddau heddiw – eu profi mor gyson fel rhwystrau mawr i hygyrchedd yn y cyfnod modern cynnar. Ar y naill law, roedd cyfraddau llythrennedd isel – yn enwedig ymhlith menywod a grwpiau tlotach – yn llesteirio’r gallu i gyrchu’r Beibl a llyfrau yn fwy cyffredinol. Ond roedd y ffaith ei bod yn ddigon posibl byw bywyd bob dydd yn Lloegr yn y cyfnod modern cynnar heb allu darllen neu ysgrifennu yn golygu na fyddai gwahaniaeth yn yr ymennydd, fel dyslecsia, byth yn dod i’r amlwg neu’n cael ei brofi fel anabledd. Roedd y ffaith syml y gallai person cyffredin o Loegr wrando ar ddarlleniadau o’r Beibl yn ei iaith ei hun yn chwyldro o ran hygyrchedd yn yr 16eg ganrif, ac roedd yn gam a gynorthwyodd pobl niwroamrywiol a niwronodweddiadol o bob lefel o allu darllen i gael profiad o’r ysgrythur Gristnogol. Yn sicr, efallai na fuasai Beibl Genefa wedi bod yn arloesiad defnyddiol i’r Sais cyffredin yn oes Elizabeth ag anabledd darllen, ond a oedd yn llythrennog ac yn deall Lladin. Ond byddai ei nod o sicrhau hygyrchedd i bawb wedi rhoi cyfleoedd newydd i’ch cyfoedion, nad oedd ganddyn nhw unrhyw Ladin, waeth beth fo’u profiadau o ddarllen.
Mae’r syniad y gallai’r Diwygiad yn Lloegr, ac yn benodol, y llyfrau a ddaeth yn ei sgil, fod wedi esgor ar effeithiau buddiol a chynhwysol i bobl niwroamrywiol eisoes wedi’i archwilio gan Mardy Philippian, Jr. Mewn cyfraniad i gasgliad ysgolheigaidd cynnar ar anabledd yn y cyfnod modern cynnar, mae Philippian wedi awgrymu y gallai pobl fodern gynnar, a fyddai’n cael eu nodi’n bobl awtistig heddiw, fod wedi ystyried y Llyfr Gweddi Gyffredin yn ddefnyddiol fel ‘a behavioral script that ushered those of atypical cognitive development into corporate religious and social life’ (151) ac fel ‘a communicative mode that uniquely made accessible to those in the pews the emerging theological system of belief and the physical movements and utterances that comprised the church’s liturgical service’ (152). Wrth i’r maes ddatblygu yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae Astudiaethau Niwroamrywiaeth wedi symud y sylw i raddau helaeth oddi wrth y cysyniad o ‘Ddamcaniaeth Darogan Meddwl’ sy’n cael ei gwyntyllu ym mhennod Philippian. Serch hynny, mae’r syniad y gallai cynnyrch testunol cynhenid y Diwygiad yn Lloegr fod wedi cyflawni rôl brosthetig neu arweiniol ei natur i rai defnyddwyr, gan o bosibl gefnogi gwell cynhwysiant cymunedol, yn parhau’n gyffrous. Mae myfyrio ar Destament Newydd dementia-gyfeillgar Caergrawnt, gydag argraffiad 1591 o’r Beibl yn gefndir i hynny, yn ein gwahodd i feddwl yn ehangach fyth am yr hyn y gallai llyfrau ei olygu ym mywydau pobl niwroamrywiol a’u cymunedau yn y cyfnod modern cynnar.
Bridger M. Bartlett PhD yw cydymaith ymchwil ôl-ddoethurol AMEND. Yn fras, mae eu hymchwil yn canolbwyntio ar niwroamrywiaeth fel ystyriaeth groestoriadol yn niwylliant Lloegr yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Ynghyd â Laura Seymour a Bradley J. Irish, maent yn gyd-olygydd y casgliad Neurodiversity and Early Modern English Literature (yn yr arfaeth gan Edinburgh University Press). Mae ymchwil Bartlett wedi ymddangos yn ELH a JEMCS, ac yn ddiweddar maent wedi cwblhau llawysgrif fonograff ar niwroamrywiaeth a chreu hil mewn llenyddiaeth Saesneg fodern gynnar.
Llyfryddiaeth
“ESV Crystal New Testament.” Cambridge Bibles, https://www.cambridge.org/universitypress/bibles/esv-crystal-new-testament. Accessed 2 May 2026.
“The Grace Dyslexic Typeface.” Cambridge Bibles Blog, 30 Apr. 2026, http://www.cambridge.org/universitypress/bibles/the-grace-dyslexic-typeface.
Midgley, Matt. “Pioneering New Testament for Dyslexic Readers.” Cambridge University Press & Assessment, 30 Apr. 2026, https://www.cambridge.org/news-and-insights/new-dyslexia-friendly-new-testament.
Philippian, Mardy. “The Book of Common Prayer, Theory of Mind, and Autism in Early Modern England.” Recovering Disability in Early Modern England, edited by Allison P. Hobgood and David Houston Wood, Ohio State University Press, 2020, pp. 150–66, https://doi.org/10.2307/j.ctv17260bx.14.
“Where it all started - the Geneva Bible.” Cambridge Bibles Blog, 8 Jan. 2026, http://www.cambridge.org/universitypress/bibles/where-it-all-started-the-geneva-bible.




Comments