Croeso i flog AMEND!
Croeso i’r blog ar gyfer prosiect AMEND – Niwrowahaniaeth Ewropeaidd Modern Cynnar ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r prosiect hwn yn ymchwilio i niwrowahaniaeth yn Ewrop yn y cyfnod 1550-1750, ar draws ieithoedd a diwylliannau, gan ystyried sawl math o ryngweithio rhwng Ewrop a chyfandiroedd eraill.
Mae’r prosiect ar waith rhwng mis Ionawr 2025 a mis Rhagfyr 2030. Yn y prosiect hwn byddwn yn:
· Diffinio sut yr oedd pobl Ewrop ym 1550-1750OC yn deall a phrofi’r hyn rydyn ni’n ei alw’n niwrowahaniaeth heddiw (2025-2027)
· Archwilio ffyrdd niwrowahanol o drin testunau, o arogli tudalennau i ddarllen, creu collages, a thaflu llyfrau o’r neilltu mewn diflastod (2027-2028)
· Ystyried sut i ddefnyddio bibliotherapi, dramatherapi, ac ecotherapi mewn ffyrdd sy’n gweithio go iawn i bobl niwroamrywiol (2028-2030)
Mae AMEND yn brosiect hynod gydweithredol, ac mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan. Rydyn ni’n trefnu sgyrsiau, gweithdai creadigol, perfformiadau dawns a theatr, cyfweliadau ymchwil a grwpiau ffocws, ynghyd â chynhadledd. Byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgom ni trwy lyfrau, erthyglau, blogiau, a map digidol.
Ar y blog hwn fe welwch chi’r pethau cyffrous rydyn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw, yn ogystal ag adolygiadau o lyfrau, arddangosfeydd a dramâu sy’n gysylltiedig â niwrowahaniaeth modern cynnar.
Os oes gennych chi syniad am flog, neu os oes rhywbeth yr hoffech ei adolygu, cysylltwch â ni.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen y blog, a’i fod yn sbarduno syniadau ar gyfer eich bywyd, eich gwaith a’ch sgyrsiau eich hun. Os oes gennych chi fwy o gwestiynau am y prosiect, mae croeso i chi e-bostio laura.seymour@swansea.ac.uk (er efallai na fyddaf yn ateb tan ar ôl 2030!)
Laura Seymour, Prif Ymchwilydd, Prosiect AMEND





Comments