top of page
Outline.png

Cyfres Gweithdai Modern Cynnar AMEND 2027: Arteffactau, Celf a Galluedd. Creu Llawenydd Niwrowahanol

lauraseymour7
2 hours ago
1 min read

Woodcut of a man working with a square frame on top of a wooden barrel to make paper. A barefoot boy in the foreground carries a stack of paper.
A man making paper, his apprentice carrying away the finished sheets, by J, Amman, 1568 (Wellcome Collection, London, in the Public Domain)

Yn y gyfres hon o weithdai, rydym yn archwilio ffyrdd creadigol o ateb dau gwestiwn ymchwil:


  1. Pa ddealltwriaeth newydd o lenyddiaeth rydym yn ei chael pan fyddwn yn galluogi i'n ffyrdd niwrowahanol o ddarllen ffynnu a datblygu yn hytrach na'u cuddio? 

  2. Sut gall testunau modern cynnar ein helpu i ddeall ein profiad personol o niwrowahaniaeth?


Rydym yn chwilio am gyfranogwyr niwrowahanol i'n helpu i ateb y cwestiynau hyn! Efallai eich bod chi'n niwrosbeislyd, yn niwro-ehangol, neu efallai fod gennych gyflwr megis dyslecsia, ADHD, anhwylder obsesiynol-gorfodaethol, dyspracsia, syndrom Tourette, epilepsi, awtistiaeth etc, a/neu efallai nad oes angen label arnoch chi.  

Cynhelir y gyfres drwy gydol 2027 ar Gampws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe. Ymhlith y testunau y mae: tawelwch a bibliotherapi, brodwaith a gorffwys fel dull gwrthwynebol, ymgysylltu'n synhwyraidd â llyfrau, cydweddiadau a mympwyon barddonol a mwy.    

I gael mwy o wybodaeth am ein gweithdai sydd ar ddod, dilynwch ein prosiect amend yn y cyfryngau cymdeithasol ar Instagram ac amendproject ar Bluesky, neu ymunwch â'n rhestr bostio.  


Rhan o brosiect AMEND - Niwrowahaniaeth Ewropeaidd Modern Cynnar, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome.


Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Dr Laura Seymour, Prif Ymchwilydd AMEND, laura.seymour@abertawe.ac.uk


Derbyniodd y gyfres hon o weithdai gymeradwyaeth foesgol gan bwyllgor moeseg y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Whrifysgol Abertawe, rhif cymeradqyo 2 2025 14083 14089


 
 
 

Comments


bottom of page