Thomas Hobbes and Cognitive Difference

Gan Grace Webb, intern israddedig AMEND, 2026
Yn y blog yma, fe fydda i’n rhannu mewnwelediadau am sut y damcaniaethodd y meddyliwr gwleidyddol modern cynnar Thomas Hobbes am yr hyn rydyn ni bellach yn ei adnabod fel niwroamrywiaeth. Mae Leviathan gan Thomas Hobbes yn cynnig cipolwg modern cynnar ar y meddwl sy’n helpu i esbonio pam mae pobl yn meddwl yn wahanol. Trwy sefydlu pob meddwl mewn prosesau corfforol yn hytrach na goruwchnaturiol, mae Hobbes yn gwneud lle ar gyfer amrywiadau naturiol mewn dychymyg, rhesymu ac emosiwn. Er nad oes ganddo gysyniad o niwrowahaniaeth, mae ei ymgais i ddeall gwahaniaethau meddyliol fel rhan o natur ddynol gyffredin yn darparu lens defnyddiol i feddwl am sut y mae syniadau am y meddwl wedi datblygu dros amser.
Roedd Thomas Hobbes (1588–1679) yn fwyaf adnabyddus fel meddyliwr gwleidyddol, diolch yn bennaf i’w lyfr Leviathan (1651), a ysgrifennodd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Mae’r cyfnod hwnnw’n bwysig i’w ddeall, gan fod Hobbes yn y bôn yn ceisio darganfod sut i gadw cymdeithas rhag chwalu yn wyneb trais. Ond pan ddarllenais i Leviathan, nid ei syniadau gwleidyddol oedd yr unig beth wnaeth fy nharo i. Yn hytrach, cymaint y mae ei ddamcaniaeth wleidyddol yn dibynnu ar ei syniadau am sut y mae’r meddwl dynol yn gweithio.
(Mae Hobbes yn disgrifio cyflwr natur fel “ware of every man against every man” (Hobbes, 1651/1985, t. 185).)
Roedd gan Hobbes farn ffisegol, materol iawn o’r meddwl. Credai fod popeth yn dechrau gyda’r hyn rydyn ni’n ei synhwyro. Rydyn ni’n gweld neu’n clywed rhywbeth, ac mae’n dechrau symudiad yn ein cyrff. Mae’r symudiad hwnnw’n parhau fel atgof neu rywbeth rydyn ni’n ei ddychmygu, hyd yn oed ar ôl i’r peth a welsom neu a glywsom ddiflannu. Ni chredai fod unrhyw beth goruwchnaturiol am feddwl. Mae’n ymwneud â’r prosesau corfforol sy’n digwydd. Roedd hwn yn syniad cymharol radical yn ôl yn y 1600au.
(Mae Hobbes yn ysgrifennu bod “The cause of Sense, is the Externall Body...” a bod dychymyg yn “nothing but decaying sense” (Hobbes, 1651/1985, tt. 85–89).)
I mi, diddorol oedd sylwi bod y syniad hwn yn ystyried gwahaniaethau rhwng pobl. Os daw ein meddyliau o’n cyrff a’r hyn rydyn ni’n ei brofi, yna mae’n gwneud synnwyr na fydd pob person yn meddwl yn yr un ffordd, oherwydd (fel yr oedd meddygaeth fodern gynnar a theori hiwmor yn ei gydnabod), gallai cyrff pobl amrywio’n fawr iawn. Nid yw Hobbes yn dweud bod gan bawb yr un pŵer ymenyddol neu’r un ffordd o feddwl. Mae’n siarad am sut y mae pobl yn wahanol. Er enghraifft, pan mae’n sôn am ffraethineb, mae’n dweud bod rhai pobl yn gynt am roi syniadau ynghyd, tra bod eraill yn arafach neu ddim yn meddwl mewn modd mor gyson.
Nid yw’n dweud ar unwaith bod peidio â bod yn gyflym yn beth gwael. Dim ond bod meddyliau yn gweithio’n wahanol. Pan fyddwch chi’n darllen hwn nawr, mae’n anodd peidio â meddwl am bethau fel gwahaniaethau o ran sylw/y gallu i ganolbwyntio, pa mor gyflym y gall rhywun brosesu gwybodaeth, neu i ba raddau maen nhw’n gallu canolbwyntio. Wrth gwrs, nid yw Hobbes yn siarad am wybyddiaeth mewn dyfnder, ond mae’n gwybod y gall sut y mae pobl yn meddwl amrywio cryn dipyn.
(Mae Hobbes yn gwahaniaethu rhwng “quicknesse of imagination” a “slow wit” (Hobbes, 1651/1985, tt. 94–96).)
Mae hefyd yn cyfeirio at yr hyn y mae’n ei alw’n ‘madness’. Bryd hynny, roedd y gair hwnnw’n cwmpasu sawl ffordd o feddwl ac ymddygiad. Yr hyn sy’n bwysig, fodd bynnag, yw bod Hobbes yn trafod y gweithredoedd hyn fel eu bod nhw’n normal ac yn digwydd yn naturiol. Nid yw’n dweud bod pobl wedi’u meddiannu gan ddrygioni neu’n cael eu cosbi gan Dduw.
Yn hytrach, mae’n dweud ei fod yn cael ei achosi gan anghydbwysedd yn eu dychymyg neu yn eu hemosiynau. Hynny yw, mae gan bawb yr un gallu meddyliol, ond ei fod yn gweithio mewn ffordd sy’n wahanol neu ei fod yn rhy eithafol. Mae’n ddiddorol nodi, yn ystod y cyfnod yr oedd Hobbes yn ysgrifennu, bod safbwyntiau ar salwch meddwl yn symud i ffwrdd o’r crefyddol, lle byddai rhai gweithredoedd (fel hunan-niweidio neu hunanladdiad) wedi anfon pobl i uffern, a thuag at agwedd fwy tosturiol.
(Mae Hobbes yn dweud “Madnesse is nothing else but some of the Passions… when they are too vehement” (Hobbes, 1651/1985, t. 102).)
Mae hyn yn ddiddorol, oherwydd mae’n tynnu’r syniadau am anhwylderau meddwl oddi wrth grefydd a’r hyn sydd i fod yn foesol gywir. Ac eto, nid yw Hobbes yn dweud y dylai pob ffordd wahanol o feddwl gael ei thrin yr un fath mewn gwleidyddiaeth. Mae ei holl ddamcaniaeth wleidyddol yn dibynnu ar bobl yn gallu rheoli eu hunain yn rhesymol. Yn ei farn ef, dim ond os gall pobl reoli eu hemosiynau y gall cymdeithas fod yn drefnus. Felly, hyd yn oed os yw’n esbonio ffyrdd amrywiol o feddwl fel rhywbeth normal, mae’n dal i ddweud y dylai pobl geisio anelu at fod yn gyson resymegol.
(Mae Hobbes yn dadlau bod heddwch yn dibynnu ar ddilyn “Lawes of Nature,” sy’n “dictates of Reason” (Hobbes, 1651/1985, t. 189).)
Mae yna broblem yma - mae Hobbes yn dweud bod gwahaniaethau gwybyddol yn normal, ond mae hefyd yn creu system wleidyddol sy’n ffafrio ffyrdd penodol o feddwl. Felly, mae’n deall bod yna wahaniaethau, ond cyfyngir arnyn nhw yr un fath yn ei system.
(Y Sofran sy’n pennu athrawiaeth gyhoeddus ac yn cynnal trefn (Hobbes, 1651/1985, tt. 227–228).)
Ni fyddai’n iawn dweud i Hobbes ragweld meddylfryd fodern mewn perthynas â niwrowahaniaeth. Byddai hynny’n gorfodi ein syniadau ni heddiw ar gyfnod pan oedd ganddyn nhw syniadau gwahanol iawn. Ond mae ystyried ei waith yn y goleuni hwn yn dangos bod pobl yn dechrau deall newidiadau yn y meddwl dynol, hyd yn oed yn y cyfnod modern cynnar. Roedden nhw’n myfyrio ar pam yr oedd meddyliau pobl yn gweithio’n wahanol, a beth oedd hynny’n ei olygu i bwy bynnag a oedd mewn grym, ac i gymdeithas yn gyffredinol.
(Mae Hobbes yn esbonio’n gyson brosesau meddyliol yn nhermau symudiad ac achosion naturiol yn hytrach nag ymyrraeth ddwyfol (Hobbes, 1651/1985, tt. 85–90).)
Credaf fod Hobbes yn dangos bod athroniaeth bryd hynny yn meddwl am y syniadau hyn mewn ffyrdd cymhleth. Nid yw’n rhannu pobl yn ddau grŵp yn unig: y rhai sy’n rhesymol a’r rhai nad ydynt yn rhesymol, ac nid yw’n cynnig unrhyw esboniad am hyn. Yn hytrach, mae’n ceisio dweud bod popeth y mae’r meddwl yn ei wneud, gan gynnwys gweithredoedd ‘weird’ neu ‘troubling’, yn codi o ddigwyddiadau a phrosesau naturiol. Hyd yn oed pe na bai rhywun yn ystyried ei gredoau gwleidyddol yn dderbyniol yn yr oes sydd ohoni, roedd yn gwrthod y syniad bod gan y materion hyn unrhyw beth i’w wneud â’r goruwchnaturiol - ac roedd honno’n ffordd flaengar o feddwl.
(Mae Hobbes yn sefydlu’r meddwl ac angerdd fel “symudiad” o fewn y corff (Hobbes, 1651/1985, t. 87).)
Felly, nid oes gan Hobbes ddamcaniaeth ar gyfer niwrowahaniaeth fel y cyfryw, ond mae’n ychwanegu at yr hanes hir o geisio deall newidiadau yn y meddwl dynol fel rhan o’r hyn sy’n ein gwneud ni’n ddynol, ac nid fel rhywbeth sy’n cael ei dynnu oddi wrtho.
Pam mae’r pwnc hwn mor ddiddorol i mi felly? Oherwydd fy mod i, fel myfyriwr israddedig athroniaeth a gwleidyddiaeth, yn aml yn darllen ac yn dyfynnu Hobbes a Leviathan. Fel rhywun awtistig fy hun, mae gallu edrych ar Hobbes trwy’r lens hon wedi bod yn hynod ddiddorol er mwyn deall sut rydyn ni wedi esblygu ein ffordd o feddwl i’r agweddau modern tuag at niwrowahaniaeth yn ei gyfanrwydd.
Llyfryddiaeth
Herbert, G. B. (1989). Thomas Hobbes: The unity of scientific and moral wisdom. University of British Columbia Press.
Hobbes, T. (1985). Leviathan (C. B. Macpherson, Ed.). Penguin Books. (Original work published 1651)

Bywgraffiad:
Fy enw i yw Grace Webb. Rwy’n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio Athroniaeth a Gwleidyddiaeth. Rwy’n ymddiddori mewn astudiaethau niwroamrywiol gan i mi gael fy niagnosis fel person awtistig yn 6 oed ac mae hyn wedi siapio fy nealltwriaeth o’r byd yn fawr. Rwyf wedi cael y fraint o gymryd rhan mewn interniaeth gyda phrosiect AMEND ac rwy’n edrych ymlaen at weld camau nesaf y prosiect.




Comments